Rasys Gyfnewid y ‘British Athletics Fell and Hill Relays’ 2025
Mae Clwb Rhedeg Meirionnydd yn falch i fod yn trefnu y rasys cyfnewid eleni, ar Ddydd Sadwrn, 18 Hydref 2025.
Rydym yn Glwb brwdfrydig, wedi’n lleoli yn Ne Eryri, ac rydym yn edrych ymlaen i’ch croesawu i Feirionnydd.
Lleolir y digwyddiad ar Fferm Penantigi Isaf, Cwm Cerist, ger Dinas Mawddwy, sef pentref bychan y lleolir ar yr A470, 7 milltir i'r dwyrain o dref Dolgellau ble lleolir ein Clwb.
Gallwch ddod o hyd iddo drwy'r cod post SY20 9LX, neu gyfeirnod grid SH8192163 neu WTW ///eggplants.guarding.safari
Gellir dod o hyd i lety yn Ninas Mawddwy, yn Nolgellau, neu drefi cyfagos Abermaw, Y Bala, Tywyn a Machynlleth. Bydd pryd o fwyd yn cael ei ddarparu i'r holl gystadleuwyr, a bydd arlwyo pellach a bar ar gael yn ystod y digwyddiad.
Bydd mwy o wybodaeth i ddilyn yn fuan.
Noder, tra bod llwybr cyhoeddus o Fwlch yr Oerddrws i gopa’r mynyddoedd, mae’r tir lawr yn y dyffryn yn dir preifat. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Meistri Hughes o Benantigi Isaf am eu cefnogaeth brwdfrydig i allu cynnal y digwyddiad yno, ac yn gofyn i bob rhedwr barchu eu dymuniadau a pheidio â thresbasu ar eu tir, ac ar dir eu cymdogion, cyn neu ar ôl diwrnod y ras os gwelwch yn dda.
Ni chaniateir i unrhyw un redeg/cerdded y llwybrau o flaen llaw, a byddant yn cael eu marcio'n glir ar ddiwrnod y digwyddiad. Hefyd mae hon yn ardal o hedfan isel milwrol ac or herwydd, mae dronau wedi'u gwahardd. Os hoffech chi olygfa o'r awyr, yna ‘Gŵglwch’ ‘Mach Loop’!
Meirionnydd Running Club is delighted to be organising the Relays this year on Saturday, 18th October 2025.
We are an enthusiastic club based in South Snowdonia and we look forward to welcoming you to the beautiful county of Meirionnydd (pronounced May-ree-on-eth).
The event will be centred on Penantigi Isaf Farm, Cwm Cerist near Dinas Mawddwy- a small village on the A470, 7 miles east of the town of Dolgellau where our club is based. You can find it via the post code SY20 9LX grid reference SH8192163 or WTW ///eggplants.guarding.safari .
Accommodation can be found in the valley or in Dolgellau or the surrounding towns of Barmouth Bala Tywyn and Machynlleth. A meal will be provided for all competitors and further catering and a bar will be available during the event.
More information will be posted soon.
Please note, whilst there is an access path along the mountain tops accessible from the Bwlch Oerddrws the land in the valley is all private. We are very grateful to Messrs Hughes of Penantigi Isaf for their enthusiastic support of the event and ask all runners to respect their wishes and not trespass on their or their neighbours’ land before or after race day. Reconnoitring is forbidden and routes accordingly will be clearly marked. Also this is an area of military low flying and drones are prohibited. If you’d like an aerial view -Google Mach Loop!
Click the image below for more information about Dinas Mawddwy
Click this image for information on Dolgellau

Clwb Rhedeg MEIRIONNYDD Running Club
Join us on:
-
Facebook
-
Strava
-
Welsh Athletics
-
X (Twitter)